Ni allodd angau du Ddal Iesu'n gaeth Ddim hwy na'r trydydd dydd – Yn rhydd y daeth; Ni ddelir un o'i blant Er mynd i bant y bedd, Fe'u gwelir ger ei fron Yn llon eu gwedd. Wrth wel'd yr angau du, Yn nesa'n awr, 'Rwy'n ofni amhell dro, Wrth gofio'r awr; Pan gwelwy'r gwaith trwy ffydd, Y trydydd dydd wnaeth Duw; Mae ngobaith yn f'wy cry', Do'i fynu'n fyw. Fe genir cyn bo hir Yn glir ei glod: Rhyfeddu'r cariad fydd Y dydd sy'n d'od: Dadseinir "Iddo Ef" Yn lân gan nefol lu; Mynegant rinwedd gwaed Y Ceidwad cu. Pan fu fy Arglwydd mawr Yn llawr y bedd, Cynnesodd wely i mi Rhag oeri'm gwedd; Yn rhydd, ryw ddydd a ddaw, Rhowch fi â'ch llaw'r un lle; 'Rwy'n caru, er yn wan, Y fan bu fe. Er gorwedd yn y bedd, Fy annedd fud, Daw'r Iesu i'm codi'n llon Gerbron ryw bryd: A'm llygaid i a'i gwêl - Mae'r gair dan sêl yn wir - Ar newydd ddedwydd ddydd, Boredydd clir. O Dduw, dod imi ffydd, Bob dydd o'r daith Weld Seion yn nesáu Dros fryniau maith: Yn Ben mae yno'n byw Fy Iesu'n Dduw a dyn Fu yma'n wael ei wedd Mewn bedd ei hun. Dy gwmni i ddwyn y groes O moes i mi; Er gwaethaf angau a'i frad Ein Tad wyt ti; Ac er fy rhoi'n y llwch Mewn t'wyllwch dros ryw bryd, Ni'm cleddir o'i ŵydd e' Mewn lle'n y byd. [Ei gwmni i ddwyn y groes Drwy f'oes im fydd, A'i gwmni yn y glyn Ar derfyn dydd; Ac er fy rhoi'n y llwch Mewn twyllwch dros ryw hyd, Ni'm cleddir o'i ŵydd e' Mewn lle'n y byd.] gwelir :: casglir gorwedd yn y :: huno 'n llwch y pydru y'ngwaelod Fy annedd fud :: Bro farwaidd, fud Yn farwedd fud A'm llygaid i :: A'm llygaid innau William Ellis (Gwilym ab Elis) 1752-1810
Tonau [6464.6664]:
gwelir: |
Bitter death was not able To hold Jesus captive Any longer than the third day - Free came he; Nor to be held is any of his children Though going off to the grave, They are to be seen before him In their joyful state. On seeing the black death, Approaching now, I am fearing now and again, On remembering the hour; When I shall see the work through faith, Of the third day that God did; My hope is more strong, That I shall come up. To be sung before long Clearly is his praise: Wondering at the love shall be The day that is coming: "Unto Him" is to be resounded Completely by a heavenly host; They shall express the merit of the blood Of the dear Saviour. When my great Lord was On the flood of the grave, He warmed a bed for me Against the chilling of my countenance; Free, some day to come, Give me with your hand the same place; I love, although weakly, The place he was. Although lying in the grave, My mute dwelling, Jesus will come to raise me cheerfully Before some time: And my eyes will see him - The word under a seal is true - On a new happy day, A bright morning. O God, give me faith, Every day of the journey To see Zion nearing Across the vast hills: At the destination there lives My Jesus our God and man Who was here in his base condition In a grave himself. Thy company to bear the cross O give to me; Despite death and its treachery Our Father art thou; And though I am laid in the dust In darkness for some time, I will not be buried from his sight In a place in the world. [His company to bear the cross Will be mine throughout my life, And his company in the valley At the end of the day; And though I am laid in the dust In darkness for some length of time, I will not be buried from his sight In a place in the world.] to be seen :: to be gathered lying in the :: sleeping in the dust of the decaying in the bottom of a My mute dwelling :: A deathly, mute vale Deathly mute :: tr. 2009,19 Richard B Gillion |
|